Brynmawr Historical Society

Cymdeithas Hanes Brynmawr

Badge New Nantyglo_and_Blaina_Ironworks

 

Y Teirw Scotch.

Er fod nifer wedi cyfeirio at y Teirw Scotch mewn erthyglau a llyfrau nid ydynt yn adnabyddus i lawer.  Ond ‘roedd eu dylanwad yn bwysig iawn yn hanes De Cymru yn ystod y Chwyldro Diwidianol, yn enwedig cyn i’r Siartwr ddod i sylw pawb yn y 1830au. Symudiad terfysgol oedd y Teirw Scotch yn lledu drwy dyffrynoedd Sîr Fynwy a Dwyrain Sîr Forganwg. Dyma’r ardal a enwid y Parth Tywyll neu’s Parth Du, (Black Domain). Dyma gartref i ladron; llofruddwr a phob math o fywyd isel; ac i’r fan yma y dihangodd nifer oedd yn ceisio osgoi y gyfraith. Doedd dim son am heddlu yn y Parth Tywyll, ond dyma lle ‘roedd y Teirw Scotch yn hawlio ffyddlondeb y glöwr a’r mwynwr, ag hefyd, yma ‘roedd efallai siawns am waith pa beth bynnag oedd y gwaith ‘roeddynt am wneud. Dyma’r ardal a gychwynnodd y chwyldro diwidianol a ysgubodd drwy Gymru a gwneud Cymru y wlad diwidianol cyntaf yn y bd ac i’r ardal yma yr heidiodd pobol o bob man.

I dorri ar draws y stori, ‘roedd Blaenau’r Cymoedd yn llawn o estroniaid wedi tyrru yno i edrych am waith; Eidalwyr, Spaenwyr, Iddewig, Gwyddelon, Season ag wrth gwrs y Cymry oedd y mwyafrif. Mae nifer yn dal yn yr ardal, ond nid oes gymaint o Iddewon ag a fu, e.e. ‘roedd gan Frynmawr ar un amser gymuned mawr o Iddewon a synagog lle roeddynt yn addoli, ond stori arall yw honno.

Ond pwy yn union, neu beth oedd y Teirw Scotch? Wel symudiad oedd yn ceisio taro’n ol ar y per cyflawn oedd gan y meistri a pherchenogion y gweithfeydd dros y gweithwyr, dyna oedd pwrpas y Teirw Scotch a hefyd ceisio archeb hawl y gweithiwr. Roedd y rhai oedd yn berchen ar y gweithfeydd haearn neu glô (sef y meistri), hefyd yn berchenogion siop y gwaith; (y truck siop neu’r Tommy shop); roeddynt yn meddu cartrefi’r gweithwyr; ag yn aml yn rheoli’r llywodraeth lleol ag ‘roedd nifer hefyd yn eistedd fel ystus y lls. Nid oedd gan y gweithiwr unrhyw hawl o gwbl na unrhyw siawns o gael prawf têg os oeddynt yn cael eu cyhuddo o wneud rhywbeth yn groes i’r meistri. Ceisio cadw rhyw fath o hawlfraint y gweithiwr; dyna oedd pwrpas y Teirw Scotch.  ‘Roedd yr hanesydd John Davies yn cyfeirio at y Teirw Scotch fel sefydliad oedd yn ceisio creu undod rhwng y dosbarth gwaith yn nyffrynoedd Sîr Fynwy drwy ofn, a Gwyn Alf Williams yn dweud eu bôd yn wrthrinwyr cyntefig ond nid yn gyntefig yn eu pwer i fargeinio. Felly peidiwch am un funud feddwl mai rhyw gymdeithas gyfeillgar oedd y Teirw Scotch, o na, terfysgwyr oeddynt ond wrth gwrs mae hynny yn dibynu ar ochor pwy oeddych.

Ond sut yn union oeddynt yn gallu cyflawni eu pwrpas? Yn aml pan oedd penderfyniad i fynd ar streic oherwydd cyflog isel e.e. neu os oedd dirwasgiad yn y farchnad glô neu haearn roedd y perchenog yn barod i gau’r drws ar y gweithwyr a’u gadael heb gyflog. Gwaeth fyth, roeddynt hefyd yn barod i ddôd a gweithwyr o Iwerddon a cael gwared o’r gweithwyr lleol. ‘Roedd y Gwyddelod yn barod i weithio am gyflog isel ag ar ben hynny roedd safon bywyd ynwell iddynt yma yng Nghymru nag yn ôl yn Iwerddon.

Wrth gwrs, nid oedd y gweithwyr sefydlog yn hapus gyda hyn a dyma lle mae’r Teirw Scotch yn dôd i mewn. ‘Roeddynt yn barod i ddychryn unrhyw un oedd yn symud i’r ardal ag yn dwyn gwaith rhywun lleol a mwy na heb yn eu herlid allan o’r ardal.

Mae’n rhaid edrych ar y tyfiant mawr a ddigwyddodd yn yr ardal gyda cannoedd o fobl yn ymfudo i mewn i ddyffrynoedd diwidianol Dê Cymru, nid yn unig o’r Iwerddon, nifer o ardal gwlad Cymru lle ‘roedd bywyd yn galed iawn.  Ag ‘roedd y tyfiant yn sydyn. Yn Aberystruth e.e. (plwyf sydd i lawr y dyffryn o Frynmawr) rhîf y boblgaith yn 1801 oedd 805. Erbyn 1831, roedd y rhîf yn agos i 5,992, y codiad uchaf ym Mhrydain i gd. Gyda tyfiant mor fawr ‘roedd yn anodd darganfod cartrefi i bawb heb son am eu bwydo. Dim siopau ar gael heblaw siop y cwmni lle ‘roedd prîs torth e.e. yn 30% ddrytach na ddisgwilir. Ar ben hyn ‘roedd y gweithwyr yn cael eu cyflog mewn tocynau a nid mewn arian y wlad. Yr unig lle oedd ar gael i wario’r tocyn oedd yn siop y cwmni ag wrth gwrs ‘roedd hyn yn clymu’r gwâs i’w feistr. Rwy’n eitha sicr fod hyn yn un o’r rhesymau i boblogrwydd y Teirw Scotch. Rhai o’r pethau cyntaf i gael eu dinistrio gan y Teirw Scotch oedd llyfrau busnes siop y cwmni.

‘Roeddym yn son amdanynt yn cario allan cosb. Cyn cario allan y cosb, ‘roedd rhybudd yn cael ei roi yn gyntaf, peintio pen tarw ar ddrs y t mewn paent côch gyda calon ar frîg bob corn y pen. (Gwelwch isod allan o lyfr Ness Edwards)

Weithiau ysgrifennwyd y rhybydd a’i roi ar bolyn neu mynedfa i’r gwaith i rybuddio’r rhai oedd am dorri streic neu ar ddrs y cartref. Dyma nodun a roddwyd ar fonyn wrth mynediad i waith haearn Clydach yn1823. Mae hwn yn saesneg:

"How many times we gave notice to you about going in to work before we settle all together to go on better terms than were before or better than you ask at present. Notice to you David Davies, David Thomas, John and Andrew Cross that the bull and his friends are all alive and the Vale of Llanmarch is wide and woe shall be to you since dealt you shall doubtless all have at once you may depend on this. It may be the night you don’t expect we shall come again. We are not afraid were you all go all at once to work"

Nid saesneg dâ fel y gwelwch, Cymraeg oedd yr iaith yn yr ardal. Ond rhaid iddynt wneud yn sir fôd y meistri hefyd yn deall y bugwthiad.

Y gosb gan y Teirw Scotch oedd cael cweir eitha trwm, efallai torri coes neu fraich, dinistrio dodref y t, torri ffenestri ag yn y blaen. Wrth gwrs ‘roedd y fyddin yn cael eu galw i mewn i gadw trefn ag i geisio dal y terfysgwyr ond nid oedd neb am enwi unrhyw un. Tebyg iawn i stori Dafydd ap Siencyn, yr herwr o ddyffryn Conwy, yr hwn a laddodd yr Ystus Côch yng nghwrt Dinbych. Dianc i ganol y bobl wnaeth Dafydd ap Siencyn a neb yn barod i roddi unrhyw wybodaeth amdano.

Y tro cyntaf ddaeth y Teirw Scotch i’r amlwg (yn ol Ness Edwards(!)) oedd pan benderfynodd y Meistri Russell a Brown, perchenogion Gwaith Haearn y Blaina, ostwng cyflog y gweithwyr ond ar yr un amser yn cynnig rhoi benthyg arian iddynt ddwy waith neu dair gwaith yr wythnos os hoffent. Wrth gwrs, ‘roedd hyn yn creu dyled ag ‘roedd rhaid i’r gweithiwr dalu’r dyled yn ol a thrwy hyn yn clymu’r truan iw feistr. Digwyddodd hyn yn 1832, ond tybiai Evan Powell yn ei lyfr “Hanes Tredegar” eu bôd wedi dod i’r amlwg pan oedd prîs haearn ar y farchnad yn Llundain yn uchel ond nid cyflog y gweithwyr, ‘roedd hyn rhwng 1817 i 1820 rhai blynyddoedd cyn 1832. Pryd bynnag, ar noson o Fîs Chwefror yr 17eg, 1832 daeth criw o ddynion at ei gilydd wrth Pwll Cernyw oedd ar y ffîn rhwng Brynmawr a Nant y Glô. Yr arweinydd oedd “Y Tarw” yn aml gr caled a chryf. Fe roddwyd gorchymun i bob un i droi ei gôt y tu allan a rhoi bâw ar eu gwynebau, hun i gyd i guddio pwy oeddynt, (yr un ffordd roedd Merched Rebecca yn gwisgo dillad merch i gadw eu hynain yn gûdd), ag i ffwrdd a nhw i drosglwyddo cosb.

Y tro yma ‘roedd dau wedi eu rhybuddio ag felly gyda un corn yn canu ar dynion yn brefu ag yn gwneud sn i ffwrdd a nhw. Ni fasai’r Teirw Scotch e.e. o Frynmawr yn gwneud difrod yn y dref, na, o bentref arall rhag ofn i rhywyn ei hadnabod a hefyd i godi ddychryn ac i rhybuddio pawb i gadw allan o’r ffordd..

Cynigwyd rhôdd o £15 i unrhyw un all gyfeirio at aelod o’r Teirw Scotch, swm mawr iawn yn yr dyddiau hynny ond daeth dim i’r golwg, roedd cymaint o ofn ond hefyd cefnogaeth mawr i’r Teirw.

I gael blâs go dda ar waith y Teirw Scotch edrychwch sut mae’r digwyddiadau yn cael eu adroddi yn y papurau o’r amser. Mae bron pob un yn dweud fod ymdrechion y Teirw yn hyrad ddychrynllyd a threigarwch ond y gwîr oedd fôd y rhan fwyaf or difrod oedd yn cael ei wneud yn ddifrod rheolaidd. ‘Roeddynt o dan arweiniad y tarw ag roedd yn cadw pob peth a dan sylw a gwneud yn siwr nad oedd neb yn mynd dros ben llestri. Dydw i ddim yn esguso beth roeddynt yn ei wneud ond rhaid mesur hyn yn erbyn safon yr amser ar rheolau ddynol syfaenol ‘roeddynt yn ymladd amdano.

Un a gafodd ei gosbi gan y Teirw Scotch oedd Evan Thomas o Frynmawr am gymeryd prentis heb gyniatad. Fe dorwyd ei fraich gyda bâr haearn, malwyd y dodrefn ag yn ol y wasg ‘roedd ei wraig hefyd wedi cael niwed a hithau gyda baban yn eu breichiau. ‘Roedd Evan Thomas wedi cael rhybudd ond wedi anwybyddu pob un. Dyma sut roedd y wasg wedi rhoi’r stori, eto mae yn saesneg ag rwy wedi cymeryd y darn o papur newydd, Ionawr 1839:

"The gang of miscreants known as the Scotch Cattle and who a few years ago infested this neighbourhood have again commenced their nocturnal depredations. On Thursday night the house of Evan Thomas, a miner of this place was broken open by a party of these cattle and the furniture destroyed, the poor man was likewise dreadfully beaten with an iron bar, his arm being broken and his leg seriously injured. Not contend with these outrages the villains made several blows at his wife who had at the time a baby in her arms, both of whom received injuries. The cause of this outrage is that Thomas had undertaken the instruction of a stranger in the art and mystery of mining, which offence was considered sufficient provocation for the punishment affected. Several letters of a threatening nature had at various times been deposited in his stall but he had manfully disregarded them."

Felly fe welwch nad oedd bywyd yn ddâ i’r gweithwyr yn yr oes. Doedd ganddynt ddim hawliau o gwbl, na bywyd sefydlog. Er mwyn ceisio gwellhau safon bywyd a safon yn y gwaith ceisiodd rhai ddechrau undebau, ond os oeddych yn aelod ‘roeddych yn fwy debyg o gael eich taflu allan o waith. Ag mewn amser fe ddaeth yn anodd iawn i ymuno ag undeb. Wel, bêth am y Cymdeithasau Gyfeillgar? Roedd hi’n hen amser cael rhyw fath o gyd fynd rhwng y gweithwyr a dyma sefydlu yr Oddfellows yn Tredegar (sydd rhyw dair milltir o Frynmawr) yn 1820. A phan welwyd fod hyn yn llwyddianus dyma nifer eraill yn cael eu ffurfio. At rhai o’r Cymdeithasau daeth enwogion i ddarlithio fel Zephaniah Williams, un o arweinwyr y Siartwr (stori arall yw honno) a hefyd Thomos Watkins neu i roi ei enw barddol Eiddil Ifor, (eto stori arall). Ond roedd y meistri yn pryderu pan welwyd fod hyn yn dechrau mynd yn rhy boblogaidd ag mae’n sir fod dwylo’r Teirw Scotch rhywle yn trefnu rhai o’r cymdeithasau. Yr oedd gan y cymdeithasau cyfeillgar reolau ‘roedd rhaid eu cadw yn union fel roedd gan y Teirw Scotch.  

Rhaid cofio for undebau yn gyfreithlon, ‘roedd hawl gan bawb i fod yn aelod ond nid felly ‘roedd y meistri’n teimlo a daeth pethau i ben yn gyflym.

Yng ngwaith haearn Castell Nêdd yn 1824 ‘roedd tua hanner cant o ddynion wedi ymuno ag undeb. Fe alwyd pawb gan y perchenogion i gwrdd lle rhoddwyd dewis iddynt, pawb oedd yn aelodau o’r undeb i sefyll ar y chwith a’r rhai oedd ddim i sefyll ar y ddê. Beth ddigwyddodd? Pawb oedd ar y chwith yn cael eu diswyddo.  Ag wrth gwrs ‘roedd y wasg toriaidd yn cofleidio’r perchenogion.  

‘Roedd gan yr undebau reolau ‘roedd rhaid cadw atynt. Wel, pam? ‘Roeddynt yn gweithio mewn diwydiant newydd spon ag wrth i’r gwaith fynd ymlaen ‘roedd rhai yn gwella’r ffyrdd roedd pethau’n cael eu wneud. Nid oedd y gweithwyr am adael i’r meistri ddarganfod beth oeddynt wedi ei ddyfeisio. roedd y gweithwyr yn tueddu i gadw cyfrinachau cloddio am haearn neu glô.

Ond efallai fod un man lle ‘roedd y gweithwyr yn cael croeso a hwnnw oedd Y Capel. Cyn y tyfiant mawr yn nechrau’r pedwaredd ganrif a bymtheg d’oedd dim capeli yn yr ardal. Mae Brynmawr yn sefyll mewn tair plwyf, Aberystruth, Llangattog a Llanelli ag roedd eglwys ym mhôb ûn ohonynt. Yn Aberystruth roedd eglwys Sant Pedr, ym mhlwyf Llanelli roedd Sant Elli ag yn Llangattog eglwys Sant Cadog. Ond gyda’r ymfudiad i mewn dechrewyd capeli anghydfurfiwyr. Mae na hanes diddorol am dyfiant y capeli yn yr ardal. Un o wenidogion cynnar yn y Blaenau e.e. oedd “Nefydd”, dyna oedd ei enw barddol ag yn wreiddiol o Llanefydd. William Roberts oedd ei enw ag yr oedd yn fab i grydd o Llanefydd(2). Gwenidog arall o nôd oedd y bardd Crwys, gwenidog yng nghapel Rehobeth ym Mrynmawr. Un arall oedd John Edwards a ddaeth o Dreffynnon i Nant y Glo i weini ar gapel Horeb yn 1829. (Symud i Tabor ag yna i Zion), fe welwch y stori ar wefan Cymdeithas Hanes Brynmawr; www.brynmawrhistoricalsociety.org.uk 

Ynghanol yr holl broblemau troi at y capel oedd yr unig siawns gan y gweithwyr, troi at eu harweinydd ysbrydol. ‘Roedd y capel yn bwysig iawn, heblaw gwasanaeth ar y Sûl, roeddynt hefyd yn ganolfan cymdeithasol yn ystod yr wythnos, lle i gwrdd a sgwrsio. A dyma nî, tra fôd yr arweinyddion ysbrydol yn Gristion a thra bod y mwyafrif oedd yn gwneud y gynulleidfa mewn angen ag mae’r Beibl yn dweud fod gan bob dn hawl i fwyd, dillad neu rhywbeth tebyg, yn siwr fydd y capel yn gefnogol ago fod ar ochr y gweithwyr druan.

I ateb y cwestiwn fe edrychwn ar ddau gapel fel esiample. Capel Saron a Capel Peniel. Yn 1829 daeth cyfarfod yr henaduriaeth yng Nghapel Saron yn Tredegar. Mae Ness Edwards yn cyfeirio at Gwrdd y Methodistiaid Calfinaidd lle condemwyd Clwbiau Cûdd yr Undebau ag yn ychwanegol dweud dylasai nêb oedd yn aelod o undeb gael ei derbyn fel aelod o’r eglwys.

Mewn cwrdd arall yn Capel Peniel, eto yn Tredegar penderfynwyd gwrthod aelodaeth i unrhyw un oedd yn rhan o undeb. Mor ddâ i weld fod ffafr Duw yn mynd llâw i lâw gyda’r meistri. O hyn ymlaen cwrdd mewn mannau cûdd wnaeth undebion ag wrth gwrs gyrru mwy i ddôd yn rhan o, ag i gefnogi’r Teirw Scotch.

Efallai fod y Teirw Scotch wedi bod yn weithgar am tua hanner cant o flynyddoedd, mwy na thebyg roedd aelodau ar daith y Siartwyr i Gasnewydd yn 1839 ag efallai yn dal i fod yn weithgar tan 1850. Mae na dipyn nad ydym yn gwybod am y Teirw Scotch, anaml welwch sôn amdanynt mewn llyfrau hanes ond gadewch imi orffen gyda hyn a ysgrifennwyd gan Oliver Jones(3),

Mae’n hawdd condemio’r Teirw Scotch ond does dim llawer wedi ceisio esbonio’r symudiad fel ffenomenon o’r amser, fel product o’r cyflwr oedd yn gwneud dynion a merched yn fwystfilaidd. Mae nifer yn meddwl mae dim ond ffrwdiad o drais tyrfa oedd, ond yn benderfynol ‘roedd yn fwy na hynny; hwn oedd yr unig arf oedd ar gael i ddynion y Parth Du i ymladd yn erbyn tlodusrwydd annioddefol.

Oes, mae mwy i stori’r Teirw Scotch ac yn y Blaina mae yna arddangosfa am y Teirw Scotch yng Nghapel Salem(4), hen gapel y Parchedig William Roberts neu “Nefydd”.

(1)Ness Edwards oedd aelod seneddol dros Caerffili o 1939 i 1968. Ysgrifennodd y llyfr “History of the South Wales Miners' Federation”.

(2)Fe fase hanes Nefydd yn gwneud erthygl diddorol i’r Gadlas. Fe ysgrifennodd  Crefydd yr Oesoedd Tywyll yn 1852, astudiaeth o’r Fari Lwyd a hen arferion y Cymry ac roedd hefyd yn arolygwr ysgolion De Cymru.

(3)Oliver Jones “The History of Tredegar”

(4)Yn anffodus mae Capel Salem ar y pryd ar gau.

Scotch Cattle welsh Back to 'Documents' Page

Y Teirw Scotch

To download this document as a PDF file, please click on the following link.

Y Teirw Scotch