Brynmawr Historical Society

Cymdeithas Hanes Brynmawr

Badge New Nantyglo_and_Blaina_Ironworks

Welsh

Evan Jones, Tredegar: (Ieuan Gwynedd)

 

Cafodd Evan Jones ei eni yn Bryn Tynoriaid yn ymyl Dolgellau yn 1820, un o chwech plentyn yn y teulu. Dysgodd ei fam êf i ddarllen ag aeth i Goleg Aberhonddu i astudio diwinyddiaeth.  Pan orffenodd y cwrs yn 1845 cafodd ei ordeinio fel gwenidog i Gapel Saron yn Tredegar oedd gynt yn sir Gwent ond sydd nawr ym Mlaenau Gwent. ‘Roedd y capel yn un llwyddianus iawn gyda rhwng 600 a 700 o aelodau ag yma yn y capel priododd Catherine ym Mîs Tachwedd 1845. Ond ar ddechrau ei urfa fel gwenidog y capel bû farw ei fam yn 1847 ag yna ei wraig a’i unig blentyn. Ar hyd ei oes ‘roedd Evan Jones wedi dioddef iechyd gwael ag fe benderfynodd adael Capel Saron yn 1847. Ail briododd yn 1848 a Rachel o Tredwstan.

Mae’r flwyddyn 1847 yn nodweddol iawn oherwydd dyna pryd cyhoeddwyd yr adroddiad enwog a elwir “Brâd y Llyfrau Gleision”. Hwn oedd yr adroddiad a gyflwynwyd gan dri sais anglicanaidd oedd heb ddim gwybodaeth o Gymru na’r iaith Gymraeg. Yn yr adroddiad ‘roedd condemiad o’r iaith Gymraeg, anghydffurfiaeth ac yn anwedig am ferched Cymreig; yn ol yr adroddiad yr oeddynt heb addysg, yn anniwair ag yn anfoesol. Yn naturiol, ‘roedd Evan Jones wedi gwylltio ag aeth ati i gyhoeddi ei ddîg am yr enllib yn erbyn Y Cymry.

Yn 1850, ‘roedd Evan Jones yn olygydd y cylchgrawn Cymraeg i ferched, “Y Gymraes”. Dyma’r cylchgrawn cyntaf i ferched yng Nghymru ag yn y Gymraeg, yn wîr efallai mai dyma’r cylchgrawn cyntaf i ferched o bob safon cymdeithasol ym Mhrydain. (‘Roedd cylchgrawn saesneg “The Lady” ar fod ers 1770 wedi’ i anelu yn unig at y bonheddigion.) Pwrpas “Y Gymraes” oedd hyrwyddo addysg i ferched, codi’r awydd i fedru darllen, ysgrifennu a hyd yn oed cyhoeddi erthyglau ag ati. Mae’n ddigon posibl fod y cylchgrawn wedi codi safonau marched Cymru oherwydd gellir dadlau fod mwy o ferched mewn prifysgol Cymru ar ddiwedd y ganrif nag yn unrhyw brifysgol yn Lloegr.

Cafodd y cylchgrawn ei ariannu  gan Gwenynen Gwent sêf Augusta Hall (Lady Llanofer) a wnaeth gymaint dros yr iaith Gymraeg ag i ddiogelu traddodiadau Cymreig. Yn y cylchgrawn ‘roedd erthyglau am grefydd, bywyd priodasol, dirwest a bôd yn foesol.  Ceisiodd Evan Jones greu y ferch Gymreig perffaith gan obeithio y bdd y darllenwyr yn canlyn yr engraifft.  Yn anffodus bywyd byr oedd i’r cylchgrawn “Y Gymraes”, ‘roedd Evan Jones yn dioddef o iechyd gwael a bu farw yn 1852 ac fe gladdwyd yn y Groes-Wen .

Ond nid dyna’r diwedd. Daeth “Y Gymraes” yn rhan o gylchgrawn newydd “Y Tywysydd a’r Gymraes” a blynyddoedd yn hwyrach penderfynwyd adfywio’r “Gymraes” yn 1896 (y golygydd oedd Alice Gray Jones sêf Ceridwen Peris) ag aeth ymlaen tan 1934.

Saron Chapel Tredegar

Capel Saron heddiw, Mai 9ed 2016. Llûn ©Eifion Lloyd Davies.

Y Teirw Scotch.

 

Er fod nifer wedi cyfeirio at y Teirw Scotch mewn erthyglau a llyfrau nid ydynt yn adnabyddus i lawer.  Ond ‘roedd eu dylanwad yn bwysig iawn yn hanes Cymru yn ystod y Chwyldro Diwidianol yn anwedig cyn i’r Siartwyr ddod i sylw pawb yn y 1830au. Symudiad terfysgol oedd y Teirw Scotch yn lledu drwy dyffrynoedd Sîr Fynwy a Sîr Forganwg. Dyna lle ‘roeddynt yn hawlio ffyddlondeb y glöwr a’r mwynwr yn yr ardal a alwyd y Parth Tywyll. Dyna gartref i ladron, llofruddwr a phob math o fywyd isel; ac i’r fan yma y dihangodd nifer oedd yn ceisio osgoi y gyfraith.

Ceisio taro’n ol ar y per cyflawn oedd gan y meistri a pherchenogion y gweithfeydd dros y gweithwyr oedd pwrpas y Teirw Scotch. Heblaw eu bôd yn berchen y gweithfeydd ‘roedd y meistri hefyd yn berchenogion siop y gwaith; yn meddu cartrefi’r gweithwyr; ag yn aml yn rheoli’r llywodraeth lleol ag ‘roedd nifer hefyd yn eistedd fel ystus y lls. Nid oedd gan y gweithiwr unrhyw hawl o gwbl. ‘Roedd yr hanesydd John Davies yn cyfeirio at y Teirw Scotch fel sefydliad oedd yn ceisio creu undod rhwng  y dosbarth gwaith yn nyffrynoedd Sîr Fynwy drwy ofn.

Y tro cyntaf ddaeth y Teirw Scotch i’r amlwg (yn ol Ness Edwards) oedd pan benderfynodd y Meistri Russell a Brown, perchenogion Gwaith Dûr y Blaina, ostwng cyflog y gweithwyr ond ar yr un amser yn cynnig benthyg arian iddynt ddwywaith neu dair gwaith yr wythnos os hoffent. Wrth gwrs ‘roedd hyn yn creu dyled ‘roedd rhaid i’r gweithiwr dalu’n ol a thrwy hyn yn clymu’r truan iw feistr. Digwyddodd hyn yn 1832 ond tybiai Evan Powell yn ei lyfr “Hanes Tredegar” eu bôd wedi dod i’r amlwg pan oedd prîs haearn ar y farchnad yn Llundain yn uchel ond nid cyflog y gweithwyr, ‘roedd hyn rhwng 1817 i 1820. Pryd bynnag, ar noson o Fîs Chwefror yr 17eg, 1832 daeth criw o ddynion at ei gilydd wrth Pwll Cornish oedd ar y ffîn rhwng Brynmawr a Nant y Glo. Yr arweinydd oedd “Y Tarw” ag ar ol rhoi gorchymun i bob un i droi ei gôt y tu allan a baeddu eu gwynebau, i ffwrdd a nhw i drosglwyddo cosb. ‘Roedd rhybudd yn cael ei roi yn gyntaf, peintio pen tarw ar ddrws y t mewn paent côch gyda calon ar frîg bob corn y pen. Weithiau ysgrifennwyd y rhybydd a’i roi ar bolyn neu mynedfa i’r gwaith i rybuddio’r rhai oedd am dorri streic. Y gosb gan y Teirw Scotch oedd cael cweir eitha trwm, efallai torri coes neu fraich, dinistrio dodref y t, torri ffenestri ag yn y blaen. Wrth gwrs ‘roedd y fyddin yn cael eu galw i mewn i gadw trefn ag i geisio dal y terfysgwyr ond nid oedd neb am enwi unrhyw un.

Un a gafodd ei gosbi oedd Evan Thomas o Frynmawr am gymeryd prentis heb gyniatad. Fe dorwyd ei fraich gyda bâr haearn, malwyd y dodrefn ag yn ol y wasg ‘roedd ei wraig hefyd wedi cael niwed a hithau gyda baban yn eu breichiau. ‘Roedd Evan Thomas wedi cael rhybudd ond wedi anwybyddu pob un.

Mae mwy i stori’r Teirw Scotch ac mae nifer o erthyglau yw gael yn y wâsg or amser ag mae’n werth eu darllen. Yn y Blaina, mae arddangosfa am y Teirw Scotch yng Nghapel Salem.